Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Teams
Dyddiad: Dydd Llun, 15 Mawrth 2021
Amser:
09.30 -
11.05
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Delyth Jewell AS Darren Millar AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells MS, a oedd wedi nodi ymlaen llaw ei bod yn fodlon â’r adroddiad drafft a fyddai’n cael ei drafod yn ystod eitem 4.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2a Trefniadau ar gyfer Penodi Uwch Aelodau o Staff Dros Dro - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (26 Chwefror 2021)
2b Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (1 Mawrth 2021)
2c Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Mawrth 2021)
2d Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (4 Mawrth 2021)
2e Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (8 Mawrth 2021)
2f Addasiadau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (10 Mawrth 2021)
3 Craffu ar Gyfrifon 2019-20: Llywodraeth Cymru
3.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu yn ôl i ofyn bod yr ymateb yn cael ei anfon at Gadeirydd newydd y Pwyllgor perthnasol yn y Senedd nesaf.
4 Adroddiad Gwaddol: Trafod yr adroddiad drafft
4.1 Trafododd yr Aelodau yr Adroddiad Gwaddol, gan gytuno arno yn amodol ar nifer o ddiwygiadau. Caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2021.
5 Sylwadau i gloi
5.1 Nododd y Cadeirydd mai dyma gyfarfod olaf y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y bumed Senedd. Diolchodd i’r Aelodau presennol a’r Aelodau blaenorol am eu gwaith ar y pwyllgor ac am ymgysylltu â’i waith.
5.2 Aelodau blaenorol y pwyllgor oedd:
· Mike Hedges;
· Neil McEvoy;
· Lee Waters;
· Jack Sargeant;
· Neil Hamilton;
· Adam Price; ac
· Angela Burns.
5.3 Hefyd, talodd y Cadeirydd deyrnged i Mohammad Asghar, a fu farw ym mis Mehefin 2020. Ychwanegodd fod y pwyllgor hwn a’r pwyllgorau blaenorol wedi bod yn ffodus iawn o gael Oscar yn aelod ohonynt.
5.4 Talodd aelodau’r pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru deyrnged i Nick Ramsay AS am y ffordd gydsyniol, cynhwysol ac arloesol y llwyddodd i gadeirio’r pwyllgor yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Gwnaethant oll ddymuno’n dda iddo at y dyfodol
5.5 Hefyd, talodd y Cadeirydd deyrnged i’r gefnogaeth a gafodd gan yr Archwilydd Cyffredinol presennol a’i ragflaenydd, yn ogystal â thîm yr Archwilydd Cyffredinol, y Clercod a’r holl staff cymorth yng Nghomisiwn y Senedd.
5.6 Dymunodd y Cadeirydd yn dda i bawb at y dyfodol.